
Mae’r Prosiect ‘Gwarchod ein Gorffennol, Datblygu ein Dyfodol’ yn cael ei ariannu gan
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gallu ymateb i heriau’r blynyddoedd nesaf, drwy ein galluogi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a mwy, a datblygu gwell cyfleusterau peirianyddol a masnachol fydd yn cynhyrchu incwm ac yn ein galluogi i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr. Mae nifer o elfennau cydgysylltiedig yn rhan o’r cynllun datblygu sydd wedi’i gymeradwyo ar hyn o bryd.
Cafodd Apêl 75 ei lansio’n swyddogol ym mis Mawrth 2024, gyda’r nod o godi £750,000
dros bum mlynedd (£150,000 y flwyddyn) i gefnogi’r prosiect ailddatblygu mawr hwn.
Gallwch gyfrannu at y prosiect drwy gyfrannu at Apêl 75.
Rydyn ni’n paratoi popeth yn barod i ddechrau’r prosiect ar ôl i ni gael caniatâd i ddechrau gan yr ariannwr. Byddwn yn rhoi diweddariadau fan hyn i ddangos y cysyniadau, gwahanol opsiynau a chynnydd y prosiect wrth i ni symud ymlaen.





