Prosiect y Gronfa Treftadaeth

‘Gwarchod ein gorffennol, datblygu ein dyfodol’

Mae’r Prosiect ‘Gwarchod ein Gorffennol, Datblygu ein Dyfodol’ yn cael ei ariannu gan
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gallu ymateb i heriau’r blynyddoedd nesaf, drwy ein galluogi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a mwy, a datblygu gwell cyfleusterau peirianyddol a masnachol fydd yn cynhyrchu incwm ac yn ein galluogi i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr. Mae nifer o elfennau cydgysylltiedig yn rhan o’r cynllun datblygu sydd wedi’i gymeradwyo ar hyn o bryd.

Ydych chi eisiau helpu i wireddu hyn?

Cafodd Apêl 75 ei lansio’n swyddogol ym mis Mawrth 2024, gyda’r nod o godi £750,000
dros bum mlynedd (£150,000 y flwyddyn) i gefnogi’r prosiect ailddatblygu mawr hwn.
Gallwch gyfrannu at y prosiect drwy gyfrannu at Apêl 75.

Gweithfeydd Peirianyddol Newydd

Disodli’r gweithfeydd gwreiddiol lle mae’r amodau gwaith yn annigonol.

Adnewyddu’r gweithfeydd gwreiddiol

Creu lle i arddangos a chanolbwyntio ar hanes peirianneg rheilffyrdd.

Ymgysylltu â’r gymuned leol

Ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys ysgolion, a cheisio gweithio gyda phobl â nodweddion gwarchodedig yn enwedig, gan ganolbwyntio ar fod yn amgylchedd sy’n ystyriol o awtistiaeth.

Swyddog Cynhwysiant/Ymgysylltu â’r Gymuned

Hybu datblygiad sefydliadol y Rheilffordd, a chefnogi gwaith allgymorth ac ymgysylltu yn y gymuned leol.

Llety newydd i wirfoddolwyr

Darparu cyfleusterau ychwanegol a mwy amrywiol, gan gynnwys ystafell hygyrch (wedi’i lleoli mewn adeilad sydd eisoes wedi’i brynu).

Arddangosfa/arddangosfeydd treftadaeth newydd

Arddangosfeydd o gerbydau teithwyr gwreiddiol y Rheilffordd, sy’n 160 oed, a’i fflyd o wageni hanesyddol, gan dynnu sylw at gysylltiadau â’r gymuned leol a Threftadaeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Mae’r Prosiect wedi’i rannu’n sawl maes:

Diweddariadau’r Prosiect

Rydyn ni’n paratoi popeth yn barod i ddechrau’r prosiect ar ôl i ni gael caniatâd i ddechrau gan yr ariannwr. Byddwn yn rhoi diweddariadau fan hyn i ddangos y cysyniadau, gwahanol opsiynau a chynnydd y prosiect wrth i ni symud ymlaen.

Rheolwyr y Prosiect Treftadaeth

Huw Owen

Huw is a Chartered Civil and Structural Engineer with over 45 years experience, working for several major contracting companies during the course of his career. His involvement in construction ranges from large capital projects (highways, coastal defences, river and railway crossings) to the management of several smaller individual framework schemes.  

Relevant to this job include projects at Llanberis Lake Railway, The Isle of Man Steam Railway and several industrial structures. 

“This exciting development, which I’m delighted to be involved in, is going to greatly enhance the facilities for volunteers and the Talyllyn Railway visitor experience” 

Carys Aldous-Hughes

Carys is a Heritage Consultant, having studied a BA in History and MSc in Conservation of Historic Buildings. She has experience working on community centred projects with a heritage focus and has managed a number of heritage lottery funded projects, including overseeing developments at Strata Florida Abbey and Mynachlog Fawr farm in Ceredigion.  

“I am delighted to be involved in this new project with the Talyllyn Railway, and I’m very excited to be helping to ensure the fascinating heritage of this site is protected and accessible to the community”